Mae llywodraethu da yn helpu elusennau i gyflawni eu nodau

Mae’r Cod yn nodi egwyddorion llywodraethu cyffredinol i elusennau eu hystyried ac yn helpu i lunio darlun cyffredin o beth mae da yn ei olygu.

Nid yw cydymffurfio â’r Cod yn ofyniad rheoleiddiol. Y Comisiwn Elusennau, ac mewn rhai achosion rheoleiddwyr eraill, a’r gyfraith elusennau sy’n dweud wrth elusennau beth sy’n rhaid iddynt ei wneud. Mae’r Cod yn dilyn canllawiau’r Comisiwn Elusennau, ond yn sylfaenol wahanol iddynt. Adnodd ymarferol i ymddiriedolwyr yw hwn i annog trafodaeth am safonau, ymddygiadau a phrosesau sy’n ddefnyddiol i feithrin llywodraethu da.

Byddai dilyn egwyddorion a chanlyniadau’r Cod yn rhoi sicrwydd cryf i randdeiliaid allanol bod elusen yn cael ei llywodraethu’n dda.

Cyflwyno Cod 2025

Egwyddorion llywodraethu da

Mae’r Cod Llywodraethu i Elusennau yn nodi wyth egwyddor gyffredinol allweddol. Mae pob un o’r rhain yn disgrifio’r hyn y byddech yn disgwyl ei weld yn eich elusen (gyda 41 o ganlyniadau i gyd) i ddangos bod eich llywodraethiant yn gweithio’n dda.

Disgwylir i bob elusen, waeth pa mor fawr neu gymhleth yw hi, ddilyn yr egwyddorion a cheisio cyflawni’r canlyniadau a nodwyd ar gyfer pob egwyddor.

Ymddygiadau

Ar gyfer pob egwyddor, mae rhestr o ymddygiadau sy’n cefnogi ei chyflawniad.

Rydym yn canolbwyntio ar ymddygiadau am fod cymaint o lywodraethu da yn ymwneud â pherthnasau – rhaid i bobl weithio gyda’i gilydd i drafod, dadlau, dehongli, dychmygu a phenderfynu. Mae’r ymddygiadau hyn yn ddiddiwedd a byddant yn berthnasol i fwy nag un egwyddor. Rydym yn eu cynnig fel awgrymiadau i bob elusen eu hystyried, waeth pa mor fawr yw’r elusen neu ba fath o elusen yw hi.

Polisïau, prosesau ac ymarferion

Gellir gwneud y defnydd gorau o bolisïau, prosesau ac ymarferion pan fyddant wedi’u teilwra i’r elusen.

Rydym yn cynnig enghreifftiau sy’n cefnogi llywodraethu da ar gyfer pob egwyddor. Ni fydd y prosesau’n berthnasol i bob elusen, yn enwedig rhai llai heb lawer o staff, os o gwbl. Ond fe allent helpu elusennau llai i feddwl am y bylchau sydd angen iddynt eu llenwi nawr, neu yn y dyfodol wrth iddynt dyfu neu ddod yn fwy uchelgeisiol.

Tystiolaeth o lywodraethu da

Mae’n bwysig bod ymddiriedolwyr yn gallu gwirio bod y llywodraethiant yn gweithio fel y bwriadwyd, ac i randdeiliaid allanol ddeall llywodraethiant yn yr elusen. Ni fwriedir i’r dystiolaeth awgrymedig fod yn rhestr wirio; yn hytrach, cyfres o awgrymiadau yw’r rhain y dylid eu hystyried wrth roi sylw i ymddygiadau a chwrs cydberthnasau.

Defnyddio’r Cod

Gall y ffordd y mae elusen yn defnyddio’r Cod newid dros amser, yn enwedig os yw’r elusen yn tyfu a newid. I elusennau sy’n penderfynu dilyn y Cod, awgrymwn eu bod yn defnyddio dull ‘defnyddio neu egluro’’.

Golyga hyn y gall elusennau sy’n ceisio dilyn egwyddorion a chanlyniadau’r Cod naill ai ddefnyddio rhai o’r ymarferion arfaethedig neu egluro’r hyn y maen nhw’n ei wneud yn lle hynny. Gall hyn hefyd fod yn berthnasol i elusennau sydd â nodweddion llywodraethu mor wahanol fel y gallai fod angen iddynt fynd ati mewn ffordd wahanol mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig (e.e. mudiadau aelodau penodol, elusennau sy’n seiliedig ar ffydd neu elusennau ag ymddiriedolwr corfforaethol).

Anogir elusennau sy’n mabwysiadu’r Cod i gyhoeddi datganiad byr yn eu hadroddiad blynyddol yn egluro eu defnydd o’r Cod. Nid oes angen i hwn fod yn rhestr hir o bolisïau neu weithdrefnau – mae datganiad byr yn iawn.

Mae rhai elusennau yn gweithio mewn meysydd fel tai a chwaraeon sydd â’u codau llywodraethu penodol eu hunain ar gyfer eu sector. Gallai fod angen dilyn y Codau hyn cyn yr un hwn. Anogir elusennau i nodi pa God llywodraethu y maen nhw’n ei ddilyn yn eu hadroddiadau blynyddol.

Sut mae’r Cod yn cael ei greu

Mae’r Cod wedi’i greu gan grŵp llywio gwirfoddol traws-sector. Caiff diwygiadau eu gwneud yn rheolaidd ar sail adborth ac ymgynghoriadau â defnyddwyr, gweithwyr proffesiynol a phobl nad ydynt yn ddefnyddwyr.

Newidiadau i ddod

Rydym wedi ystyried sut gallai elusennau ddefnyddio’r Cod ar-lein mewn ffordd fwy rhyngweithiol. Bydd gwefan newydd yn cael ei chyflwyno yn 2026.



Scroll to Top