2. Arwain

Egwyddor

Arweinir pob elusen gan fwrdd effeithiol sy’n rhoi arweinyddiaeth strategol yn unol ag amcanion a gwerthoedd yr elusen.

Y rhesymeg

Mae arweinyddiaeth gref ac effeithiol yn helpu elusen i fabwysiadu strategaeth briodol i gyflawni ei hamcanion yn effeithiol. Mae hefyd yn gosod naws yr elusen, gan gynnwys ei gweledigaeth, ei gwerthoedd a’i henw da.

Canlyniadau allweddol

  1. Bydd y bwrdd yn ei gyfanrwydd, ac ymddiriedolwyr yn unigol, yn ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd dros sicrhau bod gan yr elusen set glir a pherthnasol o amcanion a strategaeth briodol i’w cyflawni.
  2. Bydd y bwrdd yn cytuno ar weledigaeth, gwerthoedd ac enw da’r elusen ac yn arwain drwy esiampl, gan ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy’n cynrychioli’r elusen adlewyrchu ei gwerthoedd.
  3. Bydd y bwrdd yn sicrhau bod gwerthoedd yr elusen yn cael eu hadlewyrchu yn ei holl waith, a bod ethos a diwylliant y mudiad yn sail i'w holl weithgareddau.

Arfer a argymhellir

  1. Arwain yr elusen
    1. Bydd y bwrdd ac ymddiriedolwyr unigol yn ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd dros ei benderfyniadau.
    2. Bydd y cadeirydd yn darparu arweinyddiaeth i’r bwrdd gan ysgwyddo’r prif gyfrifoldeb dros sicrhau bod gan y bwrdd flaenoriaethau y cytunwyd arnynt, strwythurau priodol, prosesau a diwylliant cynhyrchiol a bod ganddo ymddiriedolwyr ac uwch aelodau o staff a all lywodraethu’n dda ac ychwanegu gwerth at yr elusen.
    3. Yn achos y mwyafrif o uwch aelodau o staff (e.e. Prif Swyddog Gweithredol) bydd y bwrdd yn sicrhau bod trefniadau priodol wedi’u sefydlu er mwyn eu penodi, eu goruchwylio, eu cefnogi, eu gwerthuso, eu talu ac, os oes angen, eu diswyddo.
    4. Bydd swyddogaethau’r bwrdd yn cael eu cofnodi’n ffurfiol. Bydd yna ddisgrifiadau o rolau sy’n diffinio cyfrifoldebau pob ymddiriedolwr sy’n amlwg yn wahanol i gyfrifoldebau’r cadeirydd a swyddogion eraill ac sy’n amlinellu’r ffordd y mae’r rolau hyn yn gysylltiedig â
    5. Pan fo’r bwrdd wedi cytuno i sefydlu is-fudiad(au) â chyfansoddiad ffurfiol, bydd yn glir ynghylch rhesymeg, buddion a risgiau’r trefniadau hyn. Bydd y berthynas ffurfiol rhwng y rhiant-elusen a phob un o’i his-gwmnïau yn cael ei chofnodi’n glir a bydd y rhiant-elusen yn adolygu, yn rheolaidd fel sy’n briodol, a yw’r trefniadau hyn yn parhau i roi’r budd gorau tuag at ddibenion elusennol y mudiad.
  2. Arwain drwy esiampl
    1. Bydd y bwrdd yn cytuno ar y gwerthoedd, sy’n gyson â phwrpas yr elusen, y mae’n dymuno’u hyrwyddo ac yn sicrhau bod y rhain yn sail i'w holl benderfyniadau a gweithgareddau'r elusen (gweler hefyd Egwyddor 1).
    2. Bydd y bwrdd yn cydnabod, yn parchu ac yn croesawu safbwyntiau amrywiol, gwahanol, ac ar adegau, rhai sy’n groes i’w gilydd gan ei ymddiriedolwyr.
    3. Bydd y bwrdd yn goruchwylio’r elusen, ei staff ac, yn benodol, yr aelod uchaf o staff, yn rhoi cyfeiriad iddynt, yn eu cefnogi ac yn eu herio’n adeiladol.
    4. Bydd y bwrdd, drwy ei berthynas â’r uwch aelod o staff, yn creu amgylchiadau lle mae staff yr elusen yn hyderus ac yn gallu rhoi'r wybodaeth, y cyngor a'r adborth angenrheidiol i'r bwrdd.
  3. Ymrwymiad
    1. Bydd pob ymddiriedolwr yn rhoi amser digonol i’r elusen i gyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol, gan gynnwys paratoi at gyfarfodydd ac eistedd ar bwyllgorau’r bwrdd a chyrff llywodraethu eraill pan fo angen. Bydd ymddiriedolwyr yn cael gwybod yr ymrwymiad amser a ddisgwylir cyn iddynt gael eu henwebu neu eu penodi ac eto wrth dderbyn yr enwebiad neu’r penodiad.
    2. Pan fo aelodau unigol o’r bwrdd yn ymwneud hefyd â gweithgareddau gweithredol, er enghraifft, fel gwirfoddolwyr, byddant yn glir ynghylch ym mha rinwedd maent yn gweithredu ar unrhyw adeg benodol ac yn deall beth mae ganddynt, a beth nad oes ganddynt, awdurdod i’w wneud, ac i bwy maent yn adrodd.
  1. Arwain yr elusen
    1. Bydd y bwrdd ac ymddiriedolwyr unigol yn ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd dros ei benderfyniadau.
    2. Bydd y cadeirydd yn darparu arweinyddiaeth i’r bwrdd gan ysgwyddo cyfrifoldeb dros sicrhau bod gan y bwrdd flaenoriaethau y cytunwyd arnynt, strwythurau priodol, prosesau a diwylliant cynhyrchiol a bod ganddo ymddiriedolwyr a all lywodraethu’n dda ac felly ychwanegu gwerth at yr elusen.
    3. Os oes gan yr elusen staff bydd y bwrdd yn sicrhau bod trefniadau priodol wedi’u sefydlu er mwyn eu penodi, eu goruchwylio, eu cefnogi, eu gwerthuso, eu talu ac, os oes angen, eu diswyddo.
    4. Os oes gan yr elusen wirfoddolwyr, bydd y bwrdd yn sicrhau trefniadau priodol i’w recriwtio, eu cefnogi a’u goruchwylio.
    5. Bydd swyddogaethau’r bwrdd yn cael eu cofnodi’n ffurfiol. Bydd yna ddisgrifiadau o rolau sy’n diffinio cyfrifoldebau pob ymddiriedolwr sy’n amlwg yn wahanol i gyfrifoldebau’r cadeirydd a swyddogion eraill ac sy’n amlinellu’r ffordd y mae’r rolau hyn yn gysylltiedig â staff neu wirfoddolwyr os oes rhai.
    6. Pan fo’r bwrdd wedi cytuno i sefydlu is-fudiad(au) â chyfansoddiad ffurfiol, bydd yn glir ynghylch rhesymeg, buddion a risgiau’r trefniadau hyn. Bydd y berthynas ffurfiol rhwng y rhiant-elusen a phob un o’i his-gwmnïau yn cael ei chofnodi’n glir a bydd y rhiant-elusen yn adolygu, yn rheolaidd fel sy’n briodol, a yw’r trefniadau hyn yn parhau i roi’r budd gorau tuag at ddibenion elusennol y mudiad.
  2. Arwain drwy esiampl
    1. Bydd y bwrdd yn cytuno ar y gwerthoedd, sy’n gyson â phwrpas yr elusen, y mae’n dymuno’u hyrwyddo ac yn sicrhau bod y rhain yn sail i'w holl benderfyniadau a gweithgareddau'r elusen (gweler hefyd Egwyddor 1).
    2. Bydd y bwrdd yn cydnabod, yn parchu ac yn croesawu safbwyntiau amrywiol, gwahanol, ac ar adegau, rhai sy’n groes i’w gilydd gan ei ymddiriedolwyr.
    3. Bydd y bwrdd yn goruchwylio’r elusen ac yn rhoi cyfeiriad iddi, ac yn darparu cymorth a her adeiladol i’r mudiad, a staff a gwirfoddolwyr os oes rhai.
    4. Bydd y bwrdd yn cefnogi unrhyw staff neu wirfoddolwyr i fod â’r hyder a’r gallu i roi'r wybodaeth, y cyngor a'r adborth angenrheidiol i'r bwrdd.