Adnewyddu'r Cod

Fel grŵp llywio, rydym eisiau gwella’r Cod yn barhaus. Mae’r ddealltwriaeth o beth yw llywodraethu da yn datblygu, ynghyd â disgwyliadau rhanddeiliaid amrywiol y sector. Ers 2017, rydym wedi bod yn ymrwymedig i adolygu’r cod bob rhyw dair blynedd, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gyfredol. Gan hynny, rydym yn lansio ymgynghoriad ar sut gellir gwella’r cod.

Rydym yn credu bod angen chwilio cydbwysedd rhwng diweddaru’r Cod yn gyson a’r aflonyddwch posibl i’r rheini sy’n defnyddio’r Cod, yn enwedig gan ystyried y gall cymryd peth amser i weithio drwy’r holl argymhellion. Gan hynny, gwnaethom gynnal adolygiad canolbwyntiedig o’r Cod ar y pwynt adolygu diwethaf yn 2020.

Yn 2024, mae’r Grŵp Llywio eisiau edrych yn ehangach ar y Cod, gan edrych ar ei gynnwys, strwythur, ei berthnasedd i elusennau o wahanol faint, yr iaith a ddefnyddir a pha mor hawdd yw hi i ddefnyddio’r fframwaith. Mae gennym hefyd ddiddordeb mewn edrych ar yr atalfeydd neu rwystrau i ddefnyddio’r Cod. Gan hynny, rydym yn gwahodd ymatebion i’r ymgynghoriad gan ddefnyddwyr a phobl nad ydynt yn ddefnyddwyr. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan y rheini ag ymwybyddiaeth o’r Cod a’r rheini nad ydynt yn gyfarwydd iawn ag ef.

Mae’r grŵp llywio hwn yn ddiolchgar i’n cyllidwr Clothworkers ac am gymorth Withers LLP a Wrigleys LLP i wneud yr ymgynghoriad hwn yn bosibl.

Sut i ymateb i’r ymgynghoriad

I ymateb i'r ymgynghoriad, cwblhewch yr holiadur ar-lein.

Mae’r broses ymgynghori’n electronig a bydd ar agor rhwng 21 Mai 2024 ac 11 Awst 2024.

Amserlen yn dilyn yr ymgynghoriad

Unwaith y bydd yr ymgynghoriad yn cau, bydd y grŵp llywio yn cymryd amser i ddadansoddi ac ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd. Ein bwriad yw rhannu’r ymateb i’r ymgynghoriad mewn papur yn yr hydref gyda’r nod o wella a llunio fersiwn wedi’i diweddaru o’r Cod ar ddechrau 2025.

Defnyddio’r Cod yn ystod y cyfnod ymgynghori

Tra bod yr ymgynghoriad ar waith, argymhellwn fod defnyddwyr y Cod yn parhau i ddefnyddio’r adnodd yn ôl yr arfer. Cynghorir nhw i beidio â gohirio ymarferiad adolygu llywodraethiant er mwyn aros i God ddiwygiedig gael ei gyhoeddi. Trwy ohirio gwaith llywodraethu pwysig, gallent fod mewn perygl o golli cyfleoedd i wella a gallai olygu nad yw materion yn cael sylw. Mae’r grŵp llywio yn teimlo’n gryf bod y fersiwn bresennol o’r cod yn parhau i fod yn adlewyrchiad o arfer da a byddwn yn ymrwymo i amlygu lle mae newidiadau sylweddol mewn unrhyw fersiwn a gaiff ei diweddaru.