Defnyddio’r cod

Ar gyfer pwy mae’r cod?

Bwriedir i elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr ddefnyddio’r cod hwn. Bydd llawer ohono yn berthnasol hefyd i fudiadau dielw eraill sy’n rhoi budd i’r cyhoedd neu’r gymuned a’r rheini â diben cymdeithasol. Gallai mudiadau neu is-sectorau addasu’r cod i adlewyrchu eu cyd-destun hwythau.

Mae egwyddorion, rhesymeg a chanlyniadau’r cod yn berthnasol i bob elusen, ni waeth beth fo’u maint na’u gweithgareddau.

Bydd yr arfer gorau a argymhellir i gyflawni’r egwyddorion hyn yn amrywiol. Er y gall fod yn anodd bod yn fanwl gywir ynglŷn â’r gwahaniaeth rhwng elusennau mwy o ran maint neu gymhlethdod, gall arferion llywodraethu edrych cryn dipyn yn wahanol gan ddibynnu ar faint, incwm, gweithgareddau neu gymhlethdod elusen. Rydym wedi cynhyrchu gwahanol fersiynau o’r arfer a argymhellir i adlewyrchu a nodi rhai o’r gwahaniaethau hyn.

Bydd pa fersiwn rydych yn dewis ei defnyddio yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Yn gyffredinol, argymhellwn i elusennau y mae eu hincwm dros £1m y flwyddyn, ac y caiff eu cyfrifon eu harchwilio’n allanol, ddefnyddio’r fersiwn fwy ac elusennau o dan y trothwy hwn i ddefnyddio’r fersiwn lai.

Sut mae’n gweithio

Mae’r cod hwn wedi’i ddylunio i gefnogi gwelliant parhaus. Bydd byrddau elusennau sy’n defnyddio’r cod hwn yn effeithiol yn ailedrych ar egwyddorion y cod, ac yn eu hystyried, yn rheolaidd.

Mae cydymffurfio â’r gyfraith yn rhan annatod o lywodraethu da. Nid yw’r cod hwn yn ceisio nodi’r holl ofynion cyfreithiol sy’n berthnasol i elusennau ac ymddiriedolwyr elusennau, ond mae wedi’i seilio ar gyfrifoldebau cyfreithiol a rheoleiddiol sylfaenol ymddiriedolwyr. Mae saith egwyddor y cod yn cymryd yn ganiataol bod elusennau eisoes yn gweithio’n unol â’r cyfrifoldebau hyn.

Mae’r cod yn nodi egwyddorion ac arfer a argymhellir. Gweler adnoddau defnyddiol y cod a’r adran dolenni ar wefan y cod i gael arweiniad manylach ar sut i gadw at y cod.

Mae gan bob egwyddor yn y cod ddisgrifiad byr, rhesymeg (y rhesymau pam mae’n bwysig), canlyniadau allweddol (beth fyddech yn disgwyl ei weld pa bai’r egwyddor yn cael ei mabwysiadu) ac arfer a argymhellir (beth allai elusen ei wneud i roi’r egwyddor ar waith).

Dilynwch neu esboniwch

Rhagwelwn y bydd y ffordd y mae elusen yn defnyddio’r cod yn rhywbeth a fydd yn datblygu ac yn aeddfedu, yn enwedig pan fo’r elusen yn tyfu ac yn newid. O gofio hyn, efallai na fydd yr arfer a argymhellir yn briodol i elusen benodol ei dilyn i ddechrau, ond gall ddod yn briodol yn y dyfodol.

Mae’n bwysig bod ymddiriedolwyr yn trafod egwyddorion y cod a’r arferion a argymhellir ac yn gwneud penderfyniadau tra ystyriol ynghylch y ffordd y dylid rhoi’r rhain ar waith yn eu helusen.

Dylai elusen esbonio’r dull mae’n ei ddefnyddio i roi’r cod ar waith, fel y bydd yn dryloyw i unrhyw un â diddordeb yn ei gwaith. Galwn y dull hwn yn ‘dilynwch neu esboniwch’. Anogir pob ymddiriedolwr i gyflawni egwyddorion a chanlyniadau’r cod naill ai drwy ddilyn yr arfer a argymhellir neu esbonio yr hyn maent wedi’i wneud yn lle hynny neu pam nad ydynt wedi’i ddilyn. Nid ydym wedi defnyddio’r ymadrodd ‘cydymffurfiwch neu esboniwch’, a ddefnyddir gan rai codau llywodraethu eraill, gan nad yw’n ofyniad cyfreithiol i ateb yr holl arferion a argymhellir yn y cod hwn.

Anogir elusennau sy’n mabwysiadu’r cod i gyhoeddi datganiad byr yn eu hadroddiad blynyddol yn egluro eu defnydd o’r cod. Rhagwelwn y bydd y datganiad hwn yn naratif byr yn hytrach nag ‘archwiliad’ hirfaith o bolisïau a gweithdrefnau.

Mae rhai elusennau’n gweithio mewn meysydd, fel tai a chwaraeon, sydd â chodau llywodraethu penodol ar gyfer y sectorau hynny. Efallai'n wir y bydd y codau hyn yn cael blaenoriaeth dros y cod hwn, ac os hynny, anogir elusennau o'r fath i ddweud yn eu hadroddiadau blynyddol pa god llywodraethu maent yn ei ddilyn.

Yr egwyddorion

Saith egwyddor sy’n ffurfio’r Cod hwn. Mae’r saith egwyddor hyn yn cymryd yn ganiataol bod elusen yn cyflawni ei chyfrifoldebau cyfreithiol a rheoleiddiol fel sylfaen.

sylfain 

1.    Pwrpas y mudiad

Bydd y bwrdd yn glir ynghylch amcanion yr elusen ac yn sicrhau y cyflawnir y rhain yn mewn ffordd effeithiol a chynaliadwy.

2.    Arwain

Arweinir pob elusen gan fwrdd effeithiol sy’n rhoi arweinyddiaeth strategol yn unol ag amcanion a gwerthoedd yr elusen.

3.    Uniondeb

Bydd y bwrdd yn gweithredu ag uniondeb, gan fabwysiadu gwerthoedd a diwylliant sy’n helpu i gyflawni dibenion elusennol y mudiad. Bydd y bwrdd yn ymwybodol o bwysigrwydd hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn elusennau, a bydd ymddiriedolwyr yn cyflawni eu dyletswyddau yn unol â hynny.

4.    Gwneud penderfyniadau, risg a rheolaeth

Bydd y bwrdd yn sicrhau bod ei brosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau wedi'u seilio ar wybodaeth, yn drylwyr ac yn amserol, a bod systemau effeithiol yn cael eu sefydlu a'u monitro ar gyfer dirprwyo, asesu a rheoli risgiau.

5.    Effeithiolrwydd y bwrdd

Bydd y bwrdd yn gweithio fel tîm effeithiol, gan ddefnyddio’r cydbwysedd priodol o sgiliau, profiad, cefndiroedd a gwybodaeth i wneud penderfyniadau doeth.

6. Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Bydd ymagwedd y bwrdd at amrywiaeth yn cefnogi ei effeithiolrwydd, ei arweinyddiaeth a’i benderfyniadau.

7.    Bod yn agored ac yn atebol

Bydd y bwrdd yn arwain y mudiad i fod yn dryloyw ac yn atebol. Bydd yr elusen yn agored yn ei gwaith, oni bai bod rheswm da iddi beidio â bod.