6. Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Egwyddor

Mae gan y bwrdd ymagwedd glir, gytunedig ac effeithiol tuag at gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant drwy'r sefydliad ac yn ei arferion ei hun. Mae'r ymagwedd hon yn sail i lywodraethu da a'r broses o wireddu dibenion elusennol y sefydliad.

Rhesymeg

Mae mynd i'r afael â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn helpu bwrdd i wneud penderfyniadau gwell. Mae hyn yn gofyn am ymrwymiad, ond mae'n golygu bod elusen yn fwy tebygol o aros yn berthnasol i'r rhai mae'n eu gwasanaethu ac o gyflawni ei budd i'r cyhoedd. Mae cydnabod ac atal unrhyw anghydbwysedd mewn grymoedd, safbwyntiau a chyfleoedd yn yr elusen, ac yn agweddau ac ymddygiad yr ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr, yn helpu i sicrhau bod elusen yn cyflawni ei nodau.

Mae gan bob ymddiriedolwr yr un cyfrifoldeb tuag at yr elusen, felly mae'n rhaid iddyn nhw fod â chyfle cyfartal i gyfrannu tuag at wneud penderfyniadau. Mae amrywiaeth, yn yr ystyr mwyaf eang, ar y bwrdd yn bwysig gan ei fod yn arwain at benderfyniadau mwy cytbwys. Lle bo'n briodol, mae hyn yn cynnwys y cymunedau a'r bobl y mae'r elusen yn eu gwasanaethu, ac yn eu rhoi nhw'n ganolog iddi. Mae hyn yn cynyddu dilysrwydd a dylanwad yr elusen. Nid yw cydraddoldeb ac amrywiaeth yn effeithiol nac yn gynaliadwy oni bai bod y bwrdd yn gweithio i fod yn gynhwysol, gan sicrhau bod pob ymddiriedolwr yn cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi, a bod modd iddynt gyfrannu.

Mae byrddau sy'n ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn fwy tebygol o osod esiampl a llais cadarnhaol i'r elusen, drwy ddilyn strategaeth briodol ar gyfer gwireddu ei diben a gosod gwerthoedd a diwylliant cynhwysol.

Canlyniadau allweddol

  1. Mae egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi'u gwreiddio yn y sefydliad, ac maent yn helpu i weithredu budd yr elusen i'r cyhoedd.
  2. Caiff rhwystrau rhag cymryd rhan eu lleihau, ac mae gwaith y sefydliad wedi'i gynllunio ac yn agored i bawb sydd o fewn ei ddibenion elusennol. Mae hyn yn cefnogi'r elusen i herio anghydraddoldebau ac i gyflawni mwy o gydraddoldeb o ran canlyniadau.
  3. Mae'r bwrdd yn fwy effeithiol gan ei fod yn adlewyrchu gwahanol safbwyntiau, profiadau a sgiliau, gan gynnwys, lle bo'n berthnasol, buddiolwyr y presennol a'r dyfodol.

Arfer a argymhellir

  1. Asesu dealltwriaeth o systemau a diwylliant
    1. Mae'r bwrdd yn dadansoddi ac yn gallu diffinio sut mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig i'r elusen, i'w chyd-destun, ac iddi gyflawni ei nodau.
    2. Mae'r bwrdd yn asesu ei ddealltwriaeth ei hun o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae'n ystyried sut mae hyn yn digwydd yn yr elusen, ac yn nodi unrhyw fylchau mewn dealltwriaeth y gellid eu llenwi drwy drafod, dysgu, ymchwil neu wybodaeth.
    3. Mae'r bwrdd yn asesu'n rheolaidd:
      1. ymagwedd yr elusen tuag at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ddefnyddio data sydd ar gael a phrofiad byw lle bo hynny'n berthnasol
      2. ei arfer ei hun, gan gynnwys:
        1. amrywiaeth o ran cefndiroedd a safbwyntiau'r ymddiriedolwyr yn ei archwiliad rheolaidd o sgiliau'r bwrdd er mwyn nodi diffyg cydbwysedd a bylchau
        2. unrhyw duedd o ran recriwtio a dethol ymddiriedolwyr
        3. lle bo'n berthnasol, sut mae'r cymunedau a'r bobl y mae'r elusen yn eu gwasanaethu yn cael eu gosod yn ganolog i'r broses o lunio penderfyniadau
        4. sut gellir gwneud cyfarfodydd a gwybodaeth y bwrdd yn fwy hygyrch, a sut mae darparu adnoddau i gefnogi hyn
        5. sut mae creu amgylchedd cyfarfod lle mai ymddygiad cynhwysol yw'r norm, lle mae pob llais yn gyfartal, a lle gall ymddiriedolwyr herio ei gilydd yn adeiladol
        6. sut mae'r bwrdd yn arddangos ymddygiad cynhwysol wrth wneud penderfyniadau, a sut mae'n ymgysylltu â staff, gwirfoddolwyr, aelodau, defnyddwyr gwasanaeth a buddiolwyr.
  2. Gosod targedau a chynlluniau realistig sy'n benodol i gyd-destun
    1. Mae'r bwrdd yn gosod ymagwedd sefydliadol glir tuag at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn unol â nodau, strategaeth, diwylliant a gwerthoedd yr elusen. Cefnogir hyn â chynlluniau, polisïau, cerrig milltir, targedau, ac amserlenni priodol.
    2. Mae'r bwrdd yn defnyddio canfyddiadau ei asesiadau i greu targedau a chynlluniau sy'n benodol i gyd-destun ac sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd ar gyfer:
      1. hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i aelodau'r bwrdd
      2. diwylliant, arferion ac ymddygiad cynhwysol yn ystafell y bwrdd
      3. gwerthusiad neu hyfforddiant i'r bwrdd er mwyn mynd i'r afael ag anghydbwysedd grym rhwng ymddiriedolwyr
      4. gwaredu, lleihau ac atal rhwystrau i bobl rhag dod yn ymddiriedolwyr
      5. denu grŵp amrywiol o ymgeiswyr ar gyfer rolau newydd ymddiriedolwyr, gan ddarparu pecyn cynefino cynhwysol i ymddiriedolwyr newydd
      6. recriwtio bwrdd amrywiol sy'n mynd i'r afael ag anghydbwysedd ac unrhyw fylchau a amlygwyd
      7. hyrwyddo ymddygiad a diwylliant cynhwysol i'r sefydliad ehangach.
  3. Gweithredu a monitro perfformiad
    1. Mae'r bwrdd yn sicrhau bod trefniadau ac adnoddau priodol ar waith i fonitro a chyflawni targedau a chynlluniau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y sefydliad, gan gynnwys y rhai sy'n berthnasol i'r bwrdd.
    2. Mae'r bwrdd yn creu ac yn cynnal diwylliant, arferion ac ymddygiad cynhwysol yn ei holl waith penderfynu. Mae'n hyrwyddo ac yn dangos ymddygiad a diwylliant cynhwysol i'r sefydliad ehangach.
    3. Mae'r bwrdd yn monitro'n rheolaidd ac yn gweithredu ei gynlluniau a'i dargedau a sefydlwyd o dan 5.2 mewn modd rhagweithiol.
    4. Mae'r bwrdd yn arwain cynnydd y sefydliad tuag at gyflawni ei gynlluniau a thargedau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae'n cael diweddariadau rheolaidd gan y sefydliad, sy'n cynnwys heriau, cyfleoedd a datblygiadau newydd.
    5. Yn achlysurol, mae'r bwrdd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a/neu myfyrio ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac yn deall ei gyfrifoldebau yn y maes hwn. Mae'n gweithredu ar unrhyw fylchau yn ei ddealltwriaeth, ac yn edrych ar sut mae'r bylchau hyn yn effeithio ar arferion, diwylliant ac ymddygiad y bwrdd.
  4. Cyhoeddi gwersi a gwybodaeth am berfformiad
    1. Mae'r bwrdd yn cyhoeddi'n rheolaidd:
      1. gwybodaeth am ei gynnydd tuag at gyflawni ei gynlluniau a'i dargedau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys heriau, cyfleoedd a dysgu. Gallai hyn gynnwys:
        1. ymagwedd sefydliadol yr elusen tuag at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn unol â'i nodau, strategaeth, diwylliant a gwerthoedd,
        2. diwylliant, arferion ac ymddygiad y bwrdd
        3. cyfansoddiad ac aelodau'r bwrdd
      2. ei gynlluniau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sefydliadol neu ar y bwrdd, ac unrhyw fylchau a nodwyd.
  1. Asesu dealltwriaeth o systemau a diwylliant
    1. Mae'r bwrdd yn dadansoddi ac yn gallu diffinio sut mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig i'r elusen, i'w chyd-destun, ac iddi gyflawni ei nodau.
    2. Mae'r bwrdd yn asesu ei ddealltwriaeth ei hun o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae'n ystyried sut mae hyn yn digwydd yn yr elusen, ac yn nodi unrhyw fylchau mewn dealltwriaeth y gellid eu llenwi drwy drafod, dysgu, ymchwil neu wybodaeth.
    3. Mae'r bwrdd yn asesu'n rheolaidd:
      1. ymagwedd yr elusen tuag at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ddefnyddio data sydd ar gael a phrofiad byw lle bo hynny'n berthnasol
      2. ei arfer ei hun, gan gynnwys:
        1. amrywiaeth o ran cefndiroedd a safbwyntiau'r ymddiriedolwyr yn ei archwiliad rheolaidd o sgiliau'r bwrdd er mwyn nodi diffyg cydbwysedd a bylchau
        2. unrhyw duedd o ran recriwtio a dethol ymddiriedolwyr
        3. lle bo'n berthnasol, sut mae'r cymunedau a'r bobl y mae'r elusen yn eu gwasanaethu yn cael eu gosod yn ganolog i'r broses o lunio penderfyniadau
        4. sut gellir gwneud cyfarfodydd a gwybodaeth y bwrdd yn fwy hygyrch, a sut mae darparu adnoddau i gefnogi hyn
        5. sut mae creu amgylchedd cyfarfod lle mai ymddygiad cynhwysol yw'r norm, lle mae pob llais yn gyfartal, a lle gall ymddiriedolwyr herio ei gilydd yn adeiladol
        6. sut mae'r bwrdd yn arddangos ymddygiad cynhwysol wrth wneud penderfyniadau, a sut mae'n ymgysylltu â staff (os oes staff), gwirfoddolwyr, aelodau, defnyddwyr gwasanaeth a buddiolwyr.
  2. Gosod targedau a chynlluniau realistig sy'n benodol i gyd-destun
    1. Mae'r bwrdd yn gosod ymagwedd sefydliadol glir tuag at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn unol â nodau, strategaeth, diwylliant a gwerthoedd yr elusen. Cefnogir hyn â chynlluniau, polisïau, cerrig milltir, targedau, ac amserlenni priodol.
    2. Mae'r bwrdd yn defnyddio canfyddiadau ei asesiadau i greu targedau a chynlluniau sy'n benodol i gyd-destun ac sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd ar gyfer:
      1. hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i aelodau'r bwrdd
      2. diwylliant, arferion ac ymddygiad cynhwysol yn ystafell y bwrdd
      3. gwaredu, lleihau ac atal rhwystrau i bobl rhag dod yn ymddiriedolwyr
      4. denu grŵp amrywiol o ymgeiswyr ar gyfer rolau newydd ymddiriedolwyr, gan ddarparu pecyn cynefino cynhwysol i ymddiriedolwyr newydd
      5. recriwtio bwrdd amrywiol sy'n mynd i'r afael ag anghydbwysedd ac unrhyw fylchau a amlygwyd
      6. hyrwyddo ymddygiad a diwylliant cynhwysol i'r sefydliad ehangach.
  3. Gweithredu a monitro perfformiad
    1. Mae'r bwrdd yn sicrhau bod trefniadau ac adnoddau priodol ar waith i fonitro a chyflawni targedau a chynlluniau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y sefydliad, gan gynnwys y rhai sy'n berthnasol i'r bwrdd.
    2. Mae'r bwrdd yn creu ac yn cynnal diwylliant, arferion ac ymddygiad cynhwysol yn ei holl waith penderfynu. Mae'n hyrwyddo ac yn dangos ymddygiad a diwylliant cynhwysol i'r sefydliad ehangach.
    3. Mae'r bwrdd yn monitro'n rheolaidd ac yn gweithredu ei gynlluniau a'i dargedau a sefydlwyd o dan 5.2 mewn modd rhagweithiol.
    4. Mae'r bwrdd yn arwain cynnydd y sefydliad tuag at gyflawni ei gynlluniau a thargedau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn trafod diweddariadau ar hyn.
    5. Yn achlysurol, mae'r bwrdd yn cymryd rhan gweithgareddau mewn dysgu a/neu myfyrio ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac yn deall ei gyfrifoldebau yn y maes hwn. Mae'n gweithredu ar unrhyw fylchau yn ei ddealltwriaeth, ac yn edrych ar sut mae'r bylchau hyn yn effeithio ar arferion, diwylliant ac ymddygiad y bwrdd.
  4. Cyhoeddi gwersi a gwybodaeth am berfformiad
    1. Mae'r bwrdd yn cyhoeddi'n rheolaidd:
      1. gwybodaeth am ei gynnydd tuag at gyflawni ei gynlluniau a'i dargedau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys heriau, cyfleoedd a dysgu.
      2. ei gynlluniau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sefydliadol neu ar y bwrdd, ac unrhyw fylchau a nodwyd.