3. Uniondeb

Egwyddor

Mae'r bwrdd yn gweithredu gydag uniondeb. Mae'n mabwysiadu gwerthoedd, yn cymhwyso egwyddorion moesegol wrth lunio penderfyniadau, ac yn creu diwylliant croesawgar a chefnogol sy'n helpu i gyflawni dibenion yr elusen. Mae'r bwrdd yn ymwybodol o arwyddocâd hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn elusennau.  Mae'n adlewyrchu moesau a gwerthoedd yr elusen ym mhopeth mae'n ei wneud. Mae'r ymddiriedolwyr yn cyflawni eu dyletswyddau â hyn mewn cof.

Rhesymeg

Dylai gweithredu dibenion yr elusen er budd y cyhoedd fod wrth galon popeth mae'r bwrdd yn ei wneud. Mae hyn yn wir hyd yn oed pan fo penderfyniad y bwrdd yn amhoblogaidd. Dylai pawb sy'n dod i gysylltiad ag elusen gael eu trin ag urddas a pharch, a theimlo eu bod mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Dylai arweinwyr elusennau ddangos y lefel uchaf o ymddygiad ac uniondeb personol.

I gyflawni hyn, dylai'r ymddiriedolwyr greu diwylliant sy'n cefnogi gwerthoedd yr elusen, meithrin ymddygiad a pholisïau sy'n unol â'r gwerthoedd, a rhoi buddiannau neu deyrngarwch personol i'r neilltu. Dylai'r bwrdd ddeall a mynd i'r afael ag unrhyw ddynameg grym amhriodol er mwyn osgoi niweidio enw da'r elusen, cefnogaeth y cyhoedd tuag at ei gwaith, a'r gwaith o gyflawni ei nodau.

Canlyniadau allweddol

  1. Mae'r bwrdd yn gweithredu er budd gorau dibenion yr elusen a'i buddiolwyr, gan greu amgylchedd diogel, sy'n parchu ac yn croesawu'r rhai sy'n dod i gysylltiad â hi.
  2. Mae'r bwrdd yn gwneud penderfyniadau gwrthrychol am weithredu nodau'r elusen. Nid chaiff ei ddylanwadu'n ormodol gan y rhai sydd â buddiannau arbennig neu bersonol. Mae hyn yr un mor berthnasol os yw'r ymddiriedolwyr wedi'u hethol, eu henwebu neu eu penodi. Mae'r bwrdd, ar y cyd, yn annibynnol yn ei waith penderfynu.
  3. Nid oes gan ddim un unigolyn neu grŵp rym neu ddylanwad gormodol yn yr elusen. Mae'r bwrdd yn cydnabod sut gall grym unigol neu sefydliadol effeithio ar weithrediadau gydag eraill.
  4. Mae'r bwrdd yn diogelu ac yn hyrwyddo enw da'r elusen drwy fyw ei gwerthoedd a thrwy hynny, hybu hyder y cyhoedd yn y sector ehangach.
  5. Ystyrir bod ymddiriedolwyr, a'r rhai sy'n gweithio i'r elusen neu yn ei chynrychioli, yn gweithredu gyda gonestrwydd, ymddiriedaeth a gofal, ac yn cefnogi ei gwerthoedd.

Arfer a argymhellir

  1. Cynnal gwerthoedd yr elusen
    1. Mae'r bwrdd yn sicrhau bod ei holl benderfyniadau a gweithredoedd yn gyson â gwerthoedd yr elusen.
    2. Mae'r ymddiriedolwyr yn gwirio'n rheolaidd a oes anghydbwysedd grym amhriodol ar y bwrdd neu yn yr elusen. Lle bo angen, maent yn mynd i'r afael ag unrhyw gamddefnydd posib o rym er mwyn cynnal diben, gwerthoedd a budd yr elusen i'r cyhoedd.
    3. Mae'r ymddiriedolwyr yn mabwysiadu ac yn dilyn cod ymddygiad addas sy'n adlewyrchu gwerthoedd yr elusen ac sy'n gosod safonau disgwyliedig o ran moesau, uniondeb ac ymddygiad.
    4. Mae'r bwrdd yn ystyried sut caiff yr elusen ei gweld gan y bobl a'r sefydliadau sy'n rhan o'i waith a gan y cyhoedd yn ehangach. Mae gan y bwrdd bolisïau a gweithdrefnau i sicrhau bod yr elusen yn gweithio'n gyfrifol ac yn foesegol, ei bod yn gwneud defnydd priodol o rym, ac yn gweithredu'n unol â'i nodau a'i gwerthoedd.
    5. Mae'r bwrdd yn sicrhau bod yr elusen yn dilyn y gyfraith. Mae hefyd yn ystyried dilyn rheolau, codau a safonau anrhwymol, er enghraifft canllawiau rheoleiddiol, 'Egwyddorion Nolan', neu Egwyddorion Moesegol Elusennau a mentrau arfer da eraill sy'n hyrwyddo hyder mewn elusennau ac sy'n creu amgylchedd cefnogol.
  2. Sicrhau'r hawl i fod yn ddiogel
    1. Mae ymddiriedolwyr yn deall eu cyfrifoldebau diogelu ac yn mynd y tu hwnt i'r isafswm cyfreithiol i hyrwyddo diwylliant lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel ac wedi'u parchu.
    2. Lle bo'n briodol:
      1. mae'r bwrdd yn sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau diogelu priodol ar waith a gaiff eu hadolygu'n rheolaidd
      2. fel rhan o broses rheoli risgiau'r elusen, mae'r bwrdd yn gwirio risgiau diogelu allweddol yn ofalus ac yn cofnodi sut caiff y rhain eu rheoli
      3. mae gan yr holl ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr a phobl sy'n gweithio gyda'r elusen wybodaeth neu hyfforddiant ar y polisi diogelu, fel eu bod yn ei ddeall, yn gwybod sut i godi llais, ac yn teimlo'n gyfforddus yn mynegi pryderon.
  3. Canfod, cofnodi ac ymdrin ag achosion o wrthdaro buddiannau/ffyddlondeb
    1. Mae'r bwrdd yn deall sut gall achosion go iawn a thybiedig o wrthdaro buddiannau a gwrthdaro ffyddlondeb effeithio ar berfformiad ac enw da elusen.
    2. Mae'r ymddiriedolwyr yn datgelu unrhyw achosion gwirioneddol neu bosib o wrthdaro i'r bwrdd, ac yn ymdrin â'r rhain yn unol â dogfen lywodraethu'r elusen a pholisi gwrthdaro buddiannau a gaiff ei hadolygu'n rheolaidd.
    3. Cedwir cofrestr fuddiannau, lletygarwch a rhoddion, ac maent ar gael i randdeiliaid yn unol â pholisi datgelu cytunedig yr elusen.
    4. Mae'r ymddiriedolwyr yn cadw eu hannibyniaeth ac yn dweud wrth y bwrdd os ydyn nhw'n teimlo eu bod wedi'u dylanwadu gan unrhyw fudd neu y gellir tybio eu bod wedi'u dylanwadu neu os oes achos o wrthdaro.
  1. Cynnal gwerthoedd yr elusen
    1. Mae'r bwrdd yn sicrhau bod ei holl benderfyniadau a gweithredoedd yn gyson â gwerthoedd yr elusen.
    2. Mae'r ymddiriedolwyr yn gwirio'n rheolaidd a oes anghydbwysedd grym amhriodol ar y bwrdd neu yn yr elusen. Lle bo angen, maent yn mynd i'r afael ag unrhyw gamddefnydd posib o rym er mwyn cynnal diben, gwerthoedd a budd yr elusen i'r cyhoedd.
    3. Mae'r ymddiriedolwyr yn mabwysiadu ac yn dilyn cod ymddygiad addas sy'n adlewyrchu gwerthoedd yr elusen ac sy'n gosod safonau disgwyliedig o ran moesau, uniondeb ac ymddygiad.
    4. Mae'r bwrdd yn ystyried sut caiff yr elusen ei gweld gan y bobl a'r sefydliadau sy'n rhan o'i waith a gan y cyhoedd yn ehangach.
    5. Mae'r bwrdd yn sicrhau bod yr elusen yn dilyn y gyfraith. Mae hefyd yn ystyried dilyn rheolau, codau a safonau anrhwymol, er enghraifft canllawiau rheoleiddiol, 'Egwyddorion Nolan', neu Egwyddorion Moesegol Elusennau a mentrau arfer da eraill sy'n hyrwyddo hyder mewn elusennau ac sy'n creu amgylchedd cefnogol.
  2. Sicrhau'r hawl i fod yn ddiogel
    1. Mae'r ymddiriedolwyr yn deall eu cyfrifoldebau diogelu ac yn mynd y tu hwnt i'r isafswm cyfreithiol i hyrwyddo diwylliant lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel ac wedi'u parchu.