Sylfaen: rôl yr ymddiriedolwyr a chyd-destun yr elusen

Mae’r Cod yn cymryd yn ganiataol bod pob ymddiriedolwr:

  • wedi ymrwymo i achos eu helusen ac wedi ymuno â'i bwrdd gan eu bod am helpu'r elusen i gyflawni ei dibenion yn y ffordd fwyaf effeithiol er budd y cyhoedd
  • yn cydnabod bod cyflawni budd cyhoeddus datganedig eu helusen yn ofyniad cyson
  • yn deall eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau cyfreithiol, ac yn benodol, wedi darllen a deall:
    • canllaw’r Comisiwn Elusennol Yr Ymddiriedolwr Hanfodol (CC3)
    • dogfen lywodraethu eu helusen
  • wedi ymrwymo i lywodraethu da ac yn awyddus i gyfrannu at sicrhau bod eu helusen yn gwella’n barhaol