Preifatrwydd

Nid yw’r wefan hon fel arfer yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch. Mae’n casglu gwybodaeth ddienw ynglŷn â’ch ymddygiad.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu’r preifatrwydd, ac anelwn at fod yn glir ac yn agored ynghylch y ffordd y defnyddir eich data. Eglura’r dudalen hon ba ddata – personol a dienw – rydym yn ei gasglu gennych a’r ffordd rydym yn ei ddefnyddio.

Er dibenion Deddf Diogelu Data 1998 (y Ddeddf), y rheolydd data yw The National Council for Voluntary Organisations, Regent’s Wharf, 8 All Saints Street, Llundain N1 9RL.

Gwybodaeth y gallem ei chasglu gennych:

  • Os ydych yn cysylltu â ni, mae’n bosib y byddwn yn cadw cofnod o’r ohebiaeth honno.
  • Manylion dienw ynglŷn â’ch ymweliadau â’n gwefan, gan gynnwys pa dudalennau rydych yn ymweld â nhw a beth rydych yn ei wneud. Diben hyn yw gwella’ch profiad o’r wefan.

Cwcis

Beth yw cwcis?

Ffeil fechan yw cwci sy’n cael ei gosod ar eich cyfrifiadur gan wefan pan fyddwch yn ymweld â hi. Mae cwcis sylfaenol yn cynnwys enw’r wefan a rhif adnabod unigryw’r defnyddiwr. Y tro nesaf y byddwch yn ymweld â’r wefan honno, bydd eich porwr yn gwirio a oes ganddo gwci ar ei chyfer ac yn anfon y wybodaeth yn y cwci hwnnw yn ôl at y wefan. Mae’r wefan wedyn yn ‘gwybod’ eich bod wedi bod yno o’r blaen, a gall, er enghraifft, deilwra’ch profiad o’r wefan. Mae cwcis mwy soffistigedig yn eich galluogi i wneud pethau eraill, fel creu cyfrifon ar wefan neu ddefnyddio siop arlein.

Cwcis hanfodol

Mae rhai o’r cwcis rydym yn eu rhoi ar eich cyfrifiadur yn ein galluogi i gofio’ch iaith (Cymraeg ‘ta Saesneg) ac a yw’n well gennych ddarllen y fersiwn o’r Cod ar gyfer elusennau mawr ‘ta bach. Ni fydd y cyfleusterau hyn yn gweithio heb gwcis.

Cwcis ail-farchnata Google

Rydym yn defnyddio cwci i’ch olrhain ar wefannau eraill a dangos hysbysebion i chi yn seiliedig ar ble rydych wedi bod ar ein gwefan. Gwnawn hyn i’ch atgoffa o’n gwasanaethau rhag ofn eich bod am ddod yn ôl a’u prynu. Dim ond am 30 diwrnod ar ôl eich ymweliad diwethaf â’n gwefan yr ydym yn defnyddio’r cwcis hyn. Nid ni sy’n rheoli’r cwcis hyn, felly, ni fydd y dewis a wnewch heddiw yn effeithio arnynt. Gallwch ddiffodd y defnydd o’r cwcis hyn drwy fynd i dudalen optio allan Google.

Gallwch gael gwybod mwy drwy’r ddolen ganlynol am Google a’i bolisïau a’i egwyddorion ynglŷn â hysbysebu.

Cwcis nad ydynt yn hanfodol

Mae cwcis Google Analytics yn ein helpu i wella’ch profiad o’r wefan ond nid ydynt yn hanfodol i weithrediad sylfaenol y wefan. Defnyddiwn y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth amhersonol ynglŷn â’ch cyfrifiadur, gan gynnwys, pan fyddant ar gael, eich cyfeiriad IP, eich system gweithredu a’ch math o borwr, er mwyn gweinyddu’r system a mesur ein heffeithiolrwydd. Maent hefyd yn ein galluogi i amcangyfrif maint ein cynulleidfa a phatrymau defnyddio. Data ystadegol yw hyn ynglŷn â gweithredoedd a phatrymau pori ein defnyddwyr ac nid yw’n adnabod unigolion.

A allaf wrthod cwcis?

Gallwch. Mae modd defnyddio gosodiad ar eich porwr sy’n eich galluogi i wrthod derbyn cwcis. Serch hynny, os dewiswch y gosodiad hwn ni fyddwch yn gallu defnyddio rhai rhannau o’n gwefan ac efallai na fydd yn gweithio’n esmwyth.

Mae gan wahanol borwyr wahanol gyfarwyddiadau i reoli cwcis ac mae’n bosib y gallwch hefyd dderbyn rhai cwcis ac nid eraill. Er enghraifft, efallai y gallwch wrthod cwcis trydydd parti.

Datgelu’ch gwybodaeth

Mae’n bosib y byddwn yn datgelu’ch gwybodaeth bersonol i drydydd partïon os:

  • oes dyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu’ch data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, neu er mwyn gorfodi neu weithredu ein telerau defnyddio neu ein telerau ac amodau gwerthu a chyflenwi a chytundebau eraill; neu er mwyn gwarchod hawliau, eiddo, neu ddiogelwch NCVO Knowhow Nonprofit, ein cwsmeriaid, neu eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth â chwmnïau a mudiadau eraill er mwyn atal twyll a lleihau risg credyd.

Mynediad at wybodaeth

Mae’r Ddeddf yn rhoi’r hawl i chi gael mynediad at wybodaeth sy’n cael ei chadw amdanoch. Gall eich hawl mynediad gael ei hymarfer yn unol â’r Ddeddf. Mae’n bosib y codir ffi o £10 ar unrhyw gais am fynediad i gwrdd â’n costau o ddarparu manylion i chi ynglŷn â’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch.

Newid ein polisi preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau a wnawn yn ein polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, phan fo’n briodol, rhoddir gwybod i chi amdanynt drwy ebost.

Cysylltu

Anfonwch unrhyw gwestiynau, sylwadau neu geisiadau ynglŷn â’r polisi preifatrwydd hwn i hello@knowhownonprofit.org.

Ymwadiad

Mae’n bosib y bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni at wefannau ein partner-rwydweithiau, ein hysbysebwyr a’n mudiadau cyswllt, a dolenni ar eu gwefannau hwythau at ein gwefan ni. Os dilynwch ddolen at unrhyw rai o’r gwefannau hyn, sylwch fod ganddynt eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac na dderbyniwn ddim cyfrifoldeb nac atebolrwydd dros y polisïau hyn. Darllenwch y polisïau hyn cyn i chi anfon unrhyw ddata personol at y gwefannau hyn.