1. Pwrpas y mudiad

Egwyddor

Bydd y bwrdd yn glir ynghylch amcanion yr elusen ac yn sicrhau y cyflawnir y rhain mewn ffordd effeithiol a chynaliadwy.

Y rhesymeg

Mae elusennau’n bodoli er mwyn cyflawni eu dibenion elusennol. Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldeb i ddeall yr amgylchedd y mae’r elusen yn gweithredu ynddo ac arwain yr elusen tuag at gyflawni ei dibenion mor effeithiol â phosibl gyda’r adnoddau sydd ar gael. Byddai peidio â gwneud hynny yn gwneud cam â buddiolwyr, cyllidwyr a chefnogwyr.

Rôl graidd y bwrdd yw canolbwyntio ar strategaeth, perfformiad a sicrwydd.

Canlyniadau allweddol

  1. Bydd gan y bwrdd gyd-ddealltwriaeth o ddibenion yr elusen, ymrwymiad iddynt, a'r gallu i fynegi’r rhain yn glir.
  2. Bydd y bwrdd yn gallu dangos bod yr elusen yn effeithiol wrth gyflawni ei dibenion elusennol a’i chanlyniadau y cytunwyd arnynt.

Arfer a argymhellir

  1. Pennu pwrpas y mudiad
    • Bydd y bwrdd yn adolygu dibenion elusennol y mudiad yn rheolaidd, a’r amgylchedd allanol y mae’n gweithio ynddo, i sicrhau bod yr elusen, a’i dibenion, yn parhau'n berthnasol ac yn ddilys.
    • Bydd y bwrdd yn arwain datblygiad strategaeth sy'n ceisio cyflawni dibenion elusennol y mudiad, ac yn cytuno arni, a bydd yn glir yngylch yr allbynnau, y canlyniadau a’r effeithiau a ddymunir.
  2. Cyflawni’r pwrpas
    1. Bydd pob ymddiriedolwr yn gallu esbonio budd cyhoeddus yr elusen.
    2. Bydd y bwrdd yn gwerthuso effaith yr elusen drwy fesur ac asesu canlyniadau, allbynnau a deilliannau.
  3. Gwerthuso’r cyd-destun allanol a chynllunio ar gyfer cynaliadwyedd
    1. Bydd y bwrdd yn adolygu’n rheolaidd gynaliadwyedd ei ffynonellau incwm a’r modelau busnes a'u heffaith ar gyflawni’r dibenion elusennol yn y tymhorau byr, canolig a hir.
    2. Bydd ymddiriedolwyr yn ystyried buddion a risgiau gweithio mewn partneriaeth, uno neu ddiddymu os oes mudiadau eraill yn cyflawni dibenion elusennol tebyg yn fwy effeithiol a/neu os yw hyfywedd yr elusen yn ansicr.
    3. Bydd y bwrdd yn cydnabod ei chyfrifoldebau ehangach tuag at gymunedau, rhanddeiliaid, cymdeithas ehangach a’r amgylchedd, ac yn gweithredu arnynt mewn modd sy’n gyson â dibenion a gwerthoedd yr elusen a’r adnoddau sydd ar gael iddi.
  1. Pennu pwrpas y mudiad
    1. Bydd y bwrdd yn adolygu dibenion elusennol y mudiad yn rheolaidd, a’r amgylchedd allanol y mae’n gweithio ynddo, i sicrhau bod yr elusen, a’i dibenion, yn parhau'n berthnasol ac yn ddilys.
    2. Bydd y bwrdd yn arwain datblygiad strategaeth neu gynllun sy'n ceisio cyflawni dibenion elusennol y mudiad, ac yn cytuno arnynt, a bydd yn glir yngylch yr allbynnau, y canlyniadau a’r effeithiau a ddymunir.
  2. Cyflawni’r pwrpas
    1. Bydd pob ymddiriedolwr yn gallu esbonio budd cyhoeddus yr elusen.
    2. Bydd y bwrdd yn gwerthuso effaith, allbynnau a chanlyniadau’r elusen yn rheolaidd.
  3. Gwerthuso’r cyd-destun allanol a chynllunio ar gyfer cynaliadwyedd
    1. Bydd y bwrdd yn adolygu’n rheolaidd gynaliadwyedd ei ffynonellau incwm a'u heffaith ar gyflawni’r dibenion elusennol yn y tymhorau byr, canolig a hir.